JonesMAIRJONES - MAIR Mai 19, 2008 yn dawel yn Ysbyty Gwynedd, o Arosfa, 6 Bro Branwen, Aberffraw yn 76 mlwydd oed. Priod ffyddlon y diweddar John Roderick Jones, mam annwyl i Anwen, chwaer hoff i John Owen a'r diweddar Richard Owen a Robert Thomas Owen, chwaer yng nghyfraith i Elizabeth Owen, modryb hoffus i Elfyn a Wendy, Steven a Caryn. Gwelir ei cholli gan deulu a ffrindiau. Angladd cyhoeddus dydd Gwener, Mai 23, gwasanaeth yn Eglwys Sant Beuno, Aberffraw am 11 y bore ac i ddilyn rhoddir i orffwys yn y fynwent. Blodau teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar, os dymunir tuag at Ymchwil y Galon a Clefyd Siwgr yn Ysbyty Gwynedd trwy law yr Ymgymerwyr R. Hughes a'i Fab, Eilian House, Ffordd Glandwr, Llangefni, Ynys Mon. LL77 7EF. Rhif ffon 01248 723497.
Keep me informed of updates